Mae Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol De Cymru gyda’u partneriaid ym mhrifysgolion Abertawe, Caerdydd a Bangor yn cynnal Gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) – yr astudiaeth EFFAITH. Mae’r cam hwn o’n hastudiaeth yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr gwasanaeth gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl a hoffem glywed gennych chi.

Rydym am glywed gan unrhyw un sydd â rhywbeth i’w ddweud am yr effaith y mae’r Ddeddf yn ei chael. Mae nifer o ffyrdd i chi fod yn rhan o’r astudiaeth:

Cyfryngau cymdeithasol

Dyma ble rydym ni’n rhoi’r holl wybodaeth am sut i gymryd rhan. Rydym yn defnyddio tri phlatfform:

  • Trydar @wiwihscusw
  • Facebook Yn ogystal â’r dudalen Facebook, mae grŵp Facebook hefyd – mae’r ddolen ar y brif dudalen.Mae’r grŵp Facebook ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr di-dâl fyddai am gymryd rhan mewn trafodaethau ar-lein am eu profiadau.
  • LinkedIn

Cyfweliad

Os hoffech siarad yn uniongyrchol hefo ni mewn cyfweliad, e-bostiwch yr Athro Mark Llewelyn, mark.llewellyn@southwales.ac.uk neu Sarah Wallace, sarah.wallace@southwales.ac.uk

Holiadur

Os fyddai’n well gennych beidio siarad yn uniongyrchol hefo ni, gallwch gymryd rhan drwy ein holiadur ar-lein (pro forma):

Llenwch yr holiadur effaith

Llenwch yr holiadur effaith Hawdd ei Ddarllen

I gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth, ewch i: Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru

Skip to content