

Oct 6, 2023 | Information and Advice, News
Mae Tîm Cyfathrebu DSN yn darparu ystod o wasanaethau hanfodol i bobl fyddar, gan sicrhau mynediad cyfartal i ystod eang o wasanaethau.
Mae ein Dehonglwyr i gyd wedi’u cofrestru gyda Chofrestr Genedlaethol Gweithwyr Cyfathrebu Proffesiynol sy’n gweithio gyda Phobl Fyddar a Phobl Dall a Byddar (NRCPD).
I archebu Dehonglwyr, neu gymorth cyfathrebu arall, cysylltwch â ni
Rydym yn cynnig cyrsiau sydd yn rhyngweithiol, yn addysgiadol, yn bleserus ac wedi’u cynllunio i wella cyfathrebu rhwng pobl fyddar a phobl sy’n clywed.
Gallwn hefyd deilwra a phersonoli cyrsiau i anghenion cyrff neu grwpiau o unigolion.
Mae ein staff hyfforddi i gyd yn arbenigwyr yn eu pwnc ac, yn hanfodol, yn meddu hefyd ar brofiadau personol o bob ffurf ar fyddardod. Mae gan y gymuned fyddar hanes a diwylliant cyfoethog ac mae ein hyfforddwyr yn adlewyrchu hyn.
Caiff y cyrsiau eu hardystio gan, ac yn cynnig cymhwyster cydnabyddedig gan, y corff dyfarnu SIGNATURE, a SEFYDLIAD IAITH ARWYDDION PRYDAIN (IBSL).
“Rwyf wedi cwblhau fy nghyrsiau BSL i gyd drwy DSN. Ar hyn o bryd rwy’n gwneud fy Lefel 4. Rwyf wedi mwynhau bob un o’r cyrsiau yr wyf wedi eu cwblhau ac wedi cael llawer o hwyl yn eu gwneud!”
“Mae DSN yn darparu amgylchedd dysgu hamddenol a chyfeillgar. Rwyf wedi dysgu llawer gan fy nhiwtor ac wedi mynd ymlaen i ddefnyddio’r sgiliau a’r cymwysterau yr wyf wedi eu hennill yn fy ngyrfa. Buaswn yn argymell i unrhyw un gwblhau eu cyrsiau drwy DSN a’u tiwtoriaid.”
Rydym yn gweithio tuag at fyd lle gall pobl sydd â nam synhwyraidd gyfathrebu yn effeithiol a byw bywydau iach, annibynnol a boddhaus. Sefydlwyd DSN yn 1976 fel y Cheshire Deaf Society, ac erbyn hyn mae’n darparu ystod eang o gymorth a gwasanaethau i bobl Fyddar, pobl Fyddar a Dall a phobl â Nam ar eu Golwg yn Swydd Gaer a’r cyffiniau.
Amlygir y gwasanaethau a ddarperir gennym ar y wefan hon, llawer ohonynt mewn BSL hefyd, neu gallwch gysylltu â ni neu ymweld ag un o’n canolfannau.
Tîm Mae ein tîm ymroddedig o staff a gwirfoddolwyr yn gweithio ledled Swydd Gaer, Sir y Fflint a Wrecsam, ac yn ymrwymedig i helpu pobl sydd â nam synhwyraidd i gyfathrebu yn effeithiol a byw bywydau iach, annibynnol a boddhaus.
Gwneud gwahaniaeth – dyna beth mae tîm DSN yn ei wneud orau, ac rydym yn falch o’r gwahaniaeth yr ydym wedi’i wneud i ansawdd bywyd miloedd o ddefnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd ers ein sefydlu yn 1976.
Mae pawb yn DSN wedi’u gyrru gan anghenion ein cymuned i barhau i wella’r hyn a wnawn, gan ddatblygu ffyrdd arloesol o sicrhau gwell canlyniadau i’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.
Mae’r agwedd person-ganolog yma, sy’n canolbwyntio ar wella mynediad cyfartal, profiadau bywyd a chyfleoedd i bobl Fyddar, yn gyrru popeth a wnawn. Mae’r ymroddiad hwn yn ein diffinio, a bydd yn parhau i’n hysbrydoli i sicrhau gwell dyfodol.
Byd lle gall pobl sydd â nam synhwyraidd fyw bywydau iach, annibynnol a boddhaus.
Mae gennym dîm anhygoel o dros 70 o bobl sy’n gweithio ledled Swydd Gaer, Sir y Fflint a Wrecsam i gefnogi pobl sydd â nam synhwyraidd.
Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr DSN yn bobl sy’n rhoi o’u hamser yn wirfoddol i arwain a chefnogi datblygiad yr elusen.
Mae ein Hymddiriedolwyr yn gyfrifol am lywodraethu DSN ac am bolisi a strategaeth y sefydliad. Er mai cyfrifoldeb y Prif Weithredwr a’r uwch reolwyr yw rheoli DSN o ddydd i ddydd, yr Ymddiriedolwyr sy’n pennu cyfeiriad DSN ac yn sicrhau bod ein gweithredoedd yn cael eu craffu’n gywir.
Gan gyfarfod bob chwarter, mae’r Ymddiriedolwyr yn dod â’u sgiliau a’u profiad i helpu i lunio ein dyfodol, a sicrhau ein bod yn cwrdd ag anghenion y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethau ac yn cydymffurfio â’n hamcanion datganedig. Cyflwynir adroddiad blynyddol i gyrff rheoleiddio, ac mae ar gael ar gais.
Mae DSN bob amser yn awyddus i glywed gan bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol o fewn ein cymuned.
Mae bod yn Ymddiriedolwr yn ffordd wych o helpu i bennu ein cyfeiriad a’n galluogi i ddarparu’r gwasanaethau sydd ar bobl eu hangen ac y gallant ymddiried ynddynt.
Mae’n gyfle gwirioneddol i rannu eich sgiliau a’ch profiad, cyfarfod pobl newydd a chymryd rhan weithredol yn ein datblygiad parhaus a’n cymhelliant i wneud gwelliannau parhaus.
Pe hoffech gael y dudalen hon yn Gymraeg, llenwch y ffurflen isod