Cyfathrebu
Mae Tîm Cyfathrebu DSN yn darparu ystod o wasanaethau hanfodol i bobl fyddar, gan sicrhau mynediad cyfartal i ystod eang o wasanaethau.
Dehonglwyr ar gyfer BSL/Saesneg a byddar/dall a byddar
Cymerwyr nodiadau
Gwefuslafarwyr proffesiynol
Gweithredwyr lleferydd-i-destun
Ein dehonglwyr
Mae ein Dehonglwyr i gyd wedi’u cofrestru gyda Chofrestr Genedlaethol Gweithwyr Cyfathrebu Proffesiynol sy’n gweithio gyda Phobl Fyddar a Phobl Dall a Byddar (NRCPD).
I archebu Dehonglwyr, neu gymorth cyfathrebu arall, cysylltwch â ni
Gwasanaethau Hyfforddi
Rydym yn cynnig cyrsiau sydd yn rhyngweithiol, yn addysgiadol, yn bleserus ac wedi’u cynllunio i wella cyfathrebu rhwng pobl fyddar a phobl sy’n clywed.
Gallwn hefyd deilwra a phersonoli cyrsiau i anghenion cyrff neu grwpiau o unigolion.
Mae ein staff hyfforddi i gyd yn arbenigwyr yn eu pwnc ac, yn hanfodol, yn meddu hefyd ar brofiadau personol o bob ffurf ar fyddardod. Mae gan y gymuned fyddar hanes a diwylliant cyfoethog ac mae ein hyfforddwyr yn adlewyrchu hyn.
Mae’r hyfforddiant yn addas i bawb ac yn gallu cynnwys:
- Ymwybyddiaeth o Fyddardod (DAT)
- Cwrs Iaith Arwyddion Prydain (BSL Lefelau 1, 2, 3 a 4)
- Ymwybyddiaeth o gymorth clyw
- Tactegau cyfathrebu
- Cyrsiau blasu mewn ystod o bynciau
Caiff y cyrsiau eu hardystio gan, ac yn cynnig cymhwyster cydnabyddedig gan, y corff dyfarnu SIGNATURE, a SEFYDLIAD IAITH ARWYDDION PRYDAIN (IBSL).
“Rwyf wedi cwblhau fy nghyrsiau BSL i gyd drwy DSN. Ar hyn o bryd rwy’n gwneud fy Lefel 4. Rwyf wedi mwynhau bob un o’r cyrsiau yr wyf wedi eu cwblhau ac wedi cael llawer o hwyl yn eu gwneud!”
“Mae DSN yn darparu amgylchedd dysgu hamddenol a chyfeillgar. Rwyf wedi dysgu llawer gan fy nhiwtor ac wedi mynd ymlaen i ddefnyddio’r sgiliau a’r cymwysterau yr wyf wedi eu hennill yn fy ngyrfa. Buaswn yn argymell i unrhyw un gwblhau eu cyrsiau drwy DSN a’u tiwtoriaid.”